Mae’r wythnos hon wedi bod yn un rhyfedd. Ers i mi ysgrifennu yn ddiwethaf mae fy ymgyrch wedi datblygu ac mae bywyd go iawn wedi cynnig sawl problem i fi wynebu. Mae wedi bod uchafbwyntiau ac mae wedi bod isafbwyntiau hefyd. Ond dw i wedi cryfhau ac ar ol bron pythefnos o beidio defnyddio’r Saesneg tu-fas i’r gweithle, dw i’n dechrau gweld yr her fel un y bydda i’n gallu cyflawni.

Dw i wedi sylweddoli faint o bobl sy’n siarad neu’n deall Cymraeg o’m cwmpas. Dechreuoedd yr wythnos gyda sgwrs ag un o’n cyn-ddysgwyr oedd yn digwydd bod yn cerdded heibio’r ty gyda’i gwn. Er nad yw e wedi mynychu dosbarth am dair blynedd mae dal gafael da ganddo ar Gymraeg sgyrsiol. Ar ol i fi gwpla dweud wrtho beth o’n i am ei wneud, edrychdd arnaf yn feddylgar, cyn iddo ofyn “Pam ti’n gwneud hynny, te?”

Does dal dim ateb glou i’r cwestiwn ‘na gyda fi. Am y rhai sy wedi darllen y post cyntaf dw i’n credu fy mod i wedi tanlinellu y rhesymau dros hyn i gyd. Ond mae hynny yn hir-wyntog a ddim mor addas ar gyfer sgwrs dau funud ar y stryd. Felly des i o hyd i ateb, ddim un dda, ond un sy wedi fy nghynorthwyo ers hynny. “Moyn gweld sut basai fe,” dwedais i. Roedd yr ateb yn ddigon da i fy ffrind felly pan nad oes amser gyda fi, neu digon o Gymraeg gyda’r person sy’n siarad gyda fi, dyna’r ateb dw i wedi bod yn ei roi.

Mae pobl Beddllwynog yn gwybod, ar y cyfan, erbyn hyn. Dw i wedi, hyd yn oed, darllen ar ffesbwc fy mod i’n gwrthod defnyddio’r Saesneg fel protest yn erbyn llywodaerth Prydain oherwydd ei ddiffyg buddsoddiad i’r iaith Gymraeg. ond wrth gwrs nid protest gwleidyddol yw hon. Dyw hi ddim yn brotest o gwbl. Blas ar brofiad yw hyn, un nac ydw i wedi’i chael o’r blaen, a phrofi bod hi’n bosib. Os ydy hynny yn newid meddylfryd Cymry, go dda y basai e ond elw ychwanegol hefyd byddai hynny, nid fy mhrif amcan.

Ar hyn o bryd mae ddwy siop yn y pentref. Un sy’n cael ei rhedeg gan Ian a’i fab Gareth ac un drws nesa i’m ty sy fel mae’n digwydd cael ei redeg gan deulu ifanc o dras Asiadd. Newydd ddyfod y maen nhw hefyd ac mae ganddynt mab bach sy wastad yn gwenu o tu-ol i’r cownter. Mae’r agwedd yn y ddwy siop yn grynodeb mewn ffordd i’r heriau fydd yn codi yn fy erbyn dros y pumdeg wythnos i ddod. Dw i wedi siarad a Gareth ac Ian ac dw i wedi llwyddo cyfathrebu yn Gymraeg gyda nhw. Yn well byth mae’r ddau ohonynt wedi llwyddo ymateb gan ddefnyddio geiriau Cymraeg. Mwy nag o’n i’n ddisgwyl i fod yn gwbl onest. Ond yn y siop drws nesa maen nhw wedi gwrthod gweini arnof fi os dydw i ddim yn fodlon i siarad Saesneg. Ac yn bellach roeddent yn grwgnachlyd wrth neud. Esbonias i wrth y dyn sy’n gweithio ‘na mod i ddim am siarad Saesneg ac gofynais drwy funudio os yw e’n siarad unrhyw ieithoedd gwahanol. Dwedodd fod e’n siarad Punjabi felly es i ar y we i ffeindio geiriau sylfaenol, yn gyntaf i ddangos parch at ddiwylliannau pobl eraill ond hefyd i wneud pethau yn haws. Deg (Das) Hugain (Vih) am y mygynnod a Diolch (Dahnwad)! Ond er hynny nad oes wedi bod unrhyw twymo yn y croeso ac dwi wedi penderfynu na fydda i’n siopa na pan fo dewis gyda fi. Ond weithiau bydd rhaid i fi ddioddef a thrio bod mor gwrtais a fedra i fod; hyd yn oed os nad yw’r cwrteisi yn gweitthio’r ddwy ffordd (Mae’r siop arall yn cau am chwech, mae’r siop drws nesa ar agor tan naw). Ond yng nghefn fy meddwl dw i’n poeni eu bod yn meddwl mod i mond yn defnyddio Cymraeg gyda nhw er mwyn gwneud iddynt deimlo’n anghysurus. Ond dwi ddim, a phroblem nhw ydy hynny, nid problem fi. Dw i ddim yn gallu eu trin nhw yn wahanol ar sail diwylliant neu lliw eu croen, neu’r iaith eu bod nhw’n siarad. Yng Nghymru maen nhw – paid a gweiddi ar bobl a mynnu eu bod nhw’n defnyddio Saesneg!

Ar ol siopa ac esbonio wrth Ian yn y siop top nos Fercher, es i i ddysgu blwyddyn un yn y Workies. Do’n i ddim yn sylweddoli ar y pryd ond roeddwn i wedi gadael fy waled yn y siop. Ces i neges testun gan fachgen y teulu drws nesa am naw o’r gloch. Mae Ian wedi gyrru lawr a rhoi fy waled iddynt os o’n i am ei godi ar y ffordd adre. Ysgrifennais nodyn i Ian a gadael yng nghil y drws y noson ‘ny gan ddiolch iddo am ei gymorth. Yn Gymraeg oedd y nodyn gyda geiriau allweddol fel defnyddio enw’r teulu dws nesa a rhif y ty a’r stryd a DIOLCH YN FAWR mawr arno. Wrth wrando ar Ian heddiw mae wedi gofyn i ffrind ei gyfieithu. Dyna wasanaeth a dyna’r ffordd i ennill ffyddlondeb cwsmeriad. Beth yw idiom Cymraeg am ‘calch a chaws’?

Roedd pwt ar y newyddion nos Iau amdanaf. Ro’n i’n gpfyn pobl Merthyr am gyfarwyddiadau yn y Gymraeg a phrynu papur. Yn ol y son doedd siopa a chaffis Merthyr dim yn fodlon iawn gyda’r cyfle o ddelio a Chymro lletchwith sy ddim am siarad Saesneg a nhw. Ond unwaith eto roedd gan y mwyafrif dealltwriaeth o air neu ddwy a gan ddefnyddio enwau siopau a enwau cwmniau roeddwn yn llwyddo. A thyfu mae’r hyder!!

Ffoniais i fy chwaer i ddweud am y rhaglen. Yr UAB oedd yn cyfieithu’r holl sgwrs a gwyliodd teulu fy chwaer y Newyddion ar eu teledu yn Reading. Siaradon ni am bedwardeg munud ar ol ac, er bod dim gair o Gymraeg gyda hi, dwedodd fy chwaer pa mor falch ohonof yr oedd hi. Dw i wedi cael negeseuon calonogol oddi wrth llawer o’m ffrindiau yn Lloegr.

Dw i wedi siarad llawer o Gymraeg ‘fyd o gwmpas y pentref. Os ydw i jyst yn gweld mwy o siaradwyr Cymraeg neu os ydw i jyst yn wneud mwy o ymdrech ni wn, ond dw i ddim yn ffeindio byw yma heb Saesneg yn anodd o gwbl. Roedd tri ohonyn ni yn sgwrsio tu-fas y ty ddoe, plant y byngalo yn chwarae ar y cwrt pel-fas gyda fy mhlant yn Gymraeg a’u rhieni a thad-cu yn dweud bod yn amser iddynt ddysgu Cymraeg. Mae’n dechrau dod y peth naturiol i’w wneud. Er bod y mwyafrif yn dysgwyr neu’r rhai sy wedi colli eu Cymraeg ysgol mae pawb yn gwneud mwy o ymdrech, ar gyfnodau dw i’n credu eu bod yn gwneud mwy o ymdrech na fi!

Ddoe daeth y sialens mwyaf. Fel deliwr tocyn tymor es i i wylio CPD Dinas Caerdydd gael eu chwalu gan Palace. Dw i wedi bod yn sefyll yn yr un lle ers i’r stadiwm agor ac wedi bod yn sgwrsio a chanu gyda’r un bois ers deng mlynedd cyn hynny. Ond siarad a chanu yn Gymraeg y wnes i. Roedd fy mab wedi synnu bod, er mod i’n siarad Cymraeg a phobl sydd, i bob pwrpas yn ddi-Gymraeg, roedden ni’n llwyddo i gyfathrebu. Meindiwch doedd dim lot i ganu amdano ac mae rhegfeydd yn hynod debyg ym mhob iaith.

Es i i barti plant yn y pentref nos Iau. Rhyw ddeg o blant oedd yno a phob un yn siarad Cymraeg. Mwyafrif o’r rhieni yn ddysgwyr neu wedi dysgu. Ar un gyfnod sefais wrth ddrws y lolfa ac edrychais o gwmpas am funud neu ddwy. Meddyliais am hen wraig y Bala Islwyn Ffowc a ces i syfrdandod ar y gyferbyniad. Gyda’m llygaid fy hun roeddwn i’n gweld ail-genu’r iaith Gymraeg.

Mae wythnos hir a galed ymalen ac mae’r gwely yn fy ngwahodd. Ond cyn i fi fynd dw i’n chwilio am bartneriaid iaith i helpu fi ar fy nhaith. Dw i am 49 o bobl i rannu’r profiad hwn gyda fi am wythnos. Mae fy mhlant hyn wedi cytuno ymuno a fi am yr wythnos olaf. Os oes diddordeb gennych gadewch nodyn ar fan hyn a byddwn ni’n trio sortio mas wythnos i chi ac ychwanegu eich sylwadau i’r blog. Nos da.

 

 

Advertisements