Mae’r dyddiau diweddar wedi bod yn hynod diddorol. Y peth cyntaf, a phosib y peth pwysica, dwi wedi’i ddysgu erbyn hyw yw nad yw’r  awydd i wneud penderfyniadau sydyn, heb wneud y gwaith caib a rhaw angenrheidiol, yn gymorth i’r rhai fel finnau. Dw i wedi gwneud fy ymdrech i fyw yn Gymraeg yn llawer mwy anodd nac oedd rhaid iddo fod. Tria i danlinellu paham.

Pwy yw’r bobl sy’n chwarae rol canolig yn fy myd? Yn amlwg fy mhlant (siaradwyr Cymraeg bob un), a’r un arall bwysig yn fy mywyd (hefyd yn medru’r Gymraeg ac yn wella bob dydd), fy ffrindiau ( y mwyafrif ohynyt yn medru’r Gymraeg), fy nghyd-gweithwyr (ond yn ol y rheolau a osodwyd gennyf ar ddechrau hyn, rwy’n parhau i ddefnyddio Saesneg yn y gwaith). Felly ar y dechrau, er bod yr her yn edrych yn un fawr o’r tu-fas, nid oeddwn i’n ei hystyried fel ‘na. Ond anghofiais am lawer o bobl; pobl sy’n rhan o fy mywyd ac yn amlwg doeddwn i ddim yn eu hystyried, doedd dim cynllun gyda fi ar eu cyfer nhw. Ac dw i dal i bendroni am yr hyn y ddylwn ei wneud er mwyn cynyddu cefnogaeth (a chadw perthnasau yr wyf wedi bod yn eu hadeiladu dros y blynyddoedd) yn y ddwy ardal bwysiga oll i mi.

Mae fy nghar yn ol! Mae wedi bod yn ymwelydd cyson i’r modurdy ers i mi ei brynu ddwy flynedd yn ol. Caiff un peth ei drwsio, aiff rhywbeth arall i’r chwith. Ond am gyfnod bydda i’n coleddu y dyddiau, wythnosau neu”r misoedd gyda fe, fel mae rhywun yn wneud wrth i glaf yn dychwelyd o’r ysbyty. Ond fel un sy’n gwybod bod pob dim ddim yn ei le, bod y salwch cyntaf wedi arwain at sawl haint arall, disgwylaf ei golli yn fuan. Ond ar hyn o bryd gyda’n gilydd y byddwn ni.

Ffoniodd y garej fi Ddydd Gwener. Edrychais ar y ffon yn siglo ar y desg o’m blaen. Gwelais enw yr un oedd yn fy ngalw. Rhewodd fy meddwl am gorff. Arhosais i i’r siglo bennu. Wnaeth. Teimlas for o ryddhad yn llifo dros fy nghorff!

Soniais am Nathan o gwmni Gwent MOT yn Nhredegar yn glou yn y post cyntaf y sgwenais. Mae e di bod ‘ma ‘da fi dros gyfnod ‘anffodus’ iechyd fy nghar. Mae wastad wedi bod yn barod ei gymwynas ac, i ddweud y gwir, mae arnaf ddyled mawr iddo, yn ogystal a swm sylweddol o arian! Ffoniais i’r un bwysig arall yn fy mywyd a gofynnais iddi a fasai hi’n fodlon i ddod i’r garej ‘da fi. Wrth gwrs yr oedd hi. Cwrddais a hi ar fy amser cinio (hanner awr – felly straen amser yn codi arnaf ‘fyd) ac aethon ni i lanhau’r car cyn i fi ei gyfnewid am fy Zafira.

Yn annisgwyl gwelais i un o fois y modurdy wrtth gael petrol. Cychwynnodd sgwrs gyda fi. Neidiodd y geiriau o’i geg fel lli o anghenfilod yn ymosod arnaf. Troais at yr un arall bwysig (yr uab), a finnau’n barlysedig, wedi fy chwalu yn fewnol ac yn amlwg a golwg pryderus ar fy wyneb. Esboniodd hi. Yn ara deg aeth yr ofn, diflannodd y crynu oedd yn fy mol ond nad oeddwn yn gallu ymlacio. Yn eu lle roedd teimlad o embaras arnaf. Doweddwn i ddim yn barod am hynny!

Yn y modurdy roedd yr uab wedi cyrraedd cyn i fi droi lan ac roedd hi wrthi yn esbonio i Nathan pan gerddais i mewn. Roedd yn gefnogol ond roedd y sgwrs yn wallgo. I ddechrau roedd e’n siarad a fi yn Saesneg ac yn edrych arnaf. Parhaodd edrych arnaf wrth i mi ei ateb yn Gymraeg. Cyfieithodd yr UAB (mae hi am aros yn ddi-enw ond mae hi’n haeddu prif llytthrennau) a throdd ei ben i ddisgwyl arni. O dipyn i beth dechreuodd beidio edrych arnaf o gwbl nes i mi, erbyn diwedd y sgwrs, teimlo braidd yn anweledig. Pan gyfeiriodd ato fi, siaradodd yn araf ac yn glir, fel oedd yn siarad a phlenyn neu fel twrist Saesneg yn siarad a gweinydd yn Sbaen. Dim defnyddio Saesneg ydwyf boi, dw i dal yn blydi ei ddeall!!

Roedd nos Wener yn dda. Aethom i wylio Clustiau Cwn yn Soar ym Merthyr gyda Rob Watson, un o’m dysgwyr sy yn glou yn troi yn siaradwr Cymraeg sy yno i mi bob tro gydag ei eiriau doeth a’i gymar Coral sy hefyd yn dysgu gyda ni ac un bendant am feistrioli’r iaith ydy hi. Mae geirfa eang ofnadwy gyda hi hefyd. Roedd y sgyrsiau fan ‘na yn naturiol yn Gymraeg gyda rhai fel Phyl y Siop (er nad yw e Phyl y Siop rhagor), y McCleaniad (Del, Lis, Bethan), y staff yng Nghaffi Cwtsh, Einir Sion oedd mor garedig a chefnogol a Steve Jones Gitar Bas oedd jyst mo’yn cymryd y pis. Ond wrth siarad a Steve, tarodd e ar broblem nad oeddwn wedi’i hystyried. “Beth mae’r cymdogion yn dweud?” meddai.

Dw i’n byw mewn un o’r pentrefi arbennig olaf y cymoedd. Wrth i ni aros am ddatblygiadau sy wedi trawsnewid ardaloedd eraill yr hen faes glo mae Beddllwynog / Bedlinog wedi cadw naws yr oes a fu. Cymuned glos yr ydym, a phobl yn siarad a’i gilydd neu gan amlaf am ei gilydd. Do’n i ddim wedi meddwl amdanyn nhw. Beth feddyliant? Dw i wedi treulio’r penwythnos yn cuddio rhagddynt, does gen i ddim ateb! Mae angen rhyw fath o gynllun arnaf, y math o gynllun dylwn i fod wedi’i wneud cyn i fi ddechrau ar y broses. Dw i ddim am fod yn feudwy …. posib wna i ddanfon y plant rownd a neges pan ddon nhw nesa i aros neu, tybed, beth mae UAB yn wneud?

Mae wedi bod llwyddiannau hefyd. Yn siopa yn lleol dw i wedi llwyddo cael yr hyn o’n i mo’yn. Mae fy nwylo wedi bod yn chwyrlio fel bod nhw ar ben hwyliau melin gwynt. Yn y siop babur yn y pentref ddwedais wrth Gareth sy’n cadw’r siop bod na ‘Problem fawr gernnyf’. Yn Saesneg ymatebodd e gan ddweud “Yr unig tro bod pobl yn dweud hynny yw pan nad oes arian gyda nhw”. Esbonias i gyda “dim Saesneg” a sgwennais i 365 ar ddarn o babur a’i roi iddo. Ei eiriau e? “Beth? Dim O GWBL?” Dw i’n dechrau gweld pwynt Carl Morris nawr, y bydd mwy o Gymraeg o gwmpas nag o’n i’n meddwl yn wreiddiol ond credwch i fi, wrth siopa yn Nhredgar doedd dim gyda’r fenyw tu-ol y cownter yn Nisa. Dw i’n sicr yr oedd yn meddwl taw cynnyrch yn y siop o’n i am ei brynu oedd ‘Diolch’   Dw i di cael sawl ‘yhh?’ hefyd ond dw i wedi llwyddo. Dw i wedi archebu tecawe hefyd ond cyfyngedig iawn oedd fy ngeiriau. Ond dw i am orffen gan adrodd rhywbeth positif. Aethon ni i n’ol y tecawe ddoe ac roedd boi hynod clen yn y gwt gyda’i wraig. Roedd yn fy nghyfarch ac ymatebais gyda ‘Iawn” ond gyda gwen ar fy wyneb. Gwrandawodd arnom yn sgwrsiau yn y Gymraeg gan barhau i wenu. Wrth i ni gerdded mas galwodd ‘Nos Da’ ar ein h’ol. Ac gyda’r geiriau man ‘na, geiriau bach ond geiriau oedd yn meddwl cymaint i fi, Noson Dda yr oedd hi!

Cofion

 

Advertisements