Gwyliau, Trallod a’r Heddllu

Duw! Mae bywyd yn ddiddorol. Er nad ydw i wedi ychwanegu llawer ar y flog dros y pythefnos diwethaf dyw hynny ddim yn meddwl bod hi wedi bod yn gyfnod dawel i mi. I’r gwrthwyneb mae di bod yn gyfnod hynod diddorol er hefyd un sy wedi cynnig digon o gyfyngderau i mi. Am resymau personol nid wyf yn medrau mynd llawer yn bellach i ddwfnderoedd wythnos cyntaf y gwyliau pasg. Heblaw dweud bod yn ystod yr wythnos roedd yn rhaid i fi ddelio a’r Heddlu (yn Saesneg), Gwasanaethau Cymdeithasol Rhondda Cynon Taf (yn Saesneg) a Gwasanaethau Cymdeithasol Merthyr Tudful (er fy ymdrechion gorau i beidio gwneud – yn Saesneg). Dyma’r amser siwr o fod mwyaf anodd yn fy mywyd ac yn enwedig ym mywyd yr UAB. Daw popeth ma’s yn y pen draw dwi’n siwr ond hoffwn gynnig gair o gyngor er mwyn i bobol fedru osgoi y sefyllfa torgalonnus a gododd duwch dros ein byd – os oes gennych fab sy methu nofio meddyliwch yn galed cyn ichi benderfynu rhoi bandiau braich arno. Mae’n bosib y byddant yn dinistrio eich bywyd! Ond ar yr ochor positif roedd gwylio gweithiwr cymdeithasol Merthyr yn trio deall fy symudiadau i yn y lolfa am hugain munud werth ei weld!

Ces i gwpl o sgwrsiau Saesneg gyda phobol gwahanol yn ysod yr wythnos na. Nid mod i’n gweld hynny fel methiant ond roedd y sefyllfa mor bwysig ac roedd yn rhaid cyfathrebu da phobl oedd yn ein cefnogi hefyd, teulu a ffrindiau di-Gymraeg oedd yn asgwrn cefn i ni pan oeddem yn teimlo bod y byd wedi cau’i lygaid a throi’i gefn arnom. Fel y dywedais i gynt, daw pethau ma’s ond nid nawr yw’r  amser am hynny.

Hoffwn edrych ar y pethau positif sy wedi digwydd. Mae Phyl Griffitths neu Phyl y Siop fel ei adnabyddir gan rai ohonoch a Colin Nosworthy wedi fy ymuno ar y daith am wythnos. Dwi’n disgwyl adroddiadau oddi wrthynt i ychwanegu man hyn am eu profiadau. Dw i’n gwybod yn iawn bod sefyllfaoedd yn codi weithiau sy’n cymhlethu’r hyn y byddwch yn trio ei gyflawni ac dwi’n ymwybodol hefyd taw dyma oedd profiad Phyl. Ond rhoi cynnig arni yw llwyddiant ac bydda i’n werthfawrogi ymrwymiad y ddau yma, pobol dilys a gennyf parch aruthrol atynt, am weddill fy nhaith.

Heblaw hynny beth arall sy wedi digwydd? Darn yn Golwg, pwt ar sioe Dylan Iorwerth, rhywbeth yn Lingo Newydd er mod i ddim wedi ei weld ‘to a gwyliau yn Nwfnaint gyda’r pedwar bach a’r UAB. A bachgen yn Sainsbury’s ym Mhontypridd wnaeth ddim y llygaid na arnaf wrth i mi brynu nwyddau, y rhai sy’n awgrymu bod cyrn yn tyfu o’ch aeliau wrth i chi siarad. Ar ol i mi ofyn iddo yn Gymraeg, mi wenodd cyn ychwanegu am y ffaith ei fod e ddim yn defnyddio cymaint o Gymraeg y dyddiau ‘ma ers iddo adael yr ysgol. Cawsom sgwrs bach, esboniais yr hyn dwi am ei wneud a wedodd e y byddai yn gwneud mwy o ymdrech i gynnal sgwrsiau yn y Gymraeg. Wrth i mi droi am y car welais y bathodyn dwyiethrwydd ar ei grys, bron yn anweledig oherwydd ei debygrwydd at gameleon yn lliw ei grys. A mor fach oedd e! Lwcus mod i ddim yn dibynnu ar y rheiny rhagor cyn ystyried a fydda i’n dechrau sgwrs yn y Gymraeg!

Positifrwydd, Problemau, Punjabi

Mae’r wythnos hon wedi bod yn un rhyfedd. Ers i mi ysgrifennu yn ddiwethaf mae fy ymgyrch wedi datblygu ac mae bywyd go iawn wedi cynnig sawl problem i fi wynebu. Mae wedi bod uchafbwyntiau ac mae wedi bod isafbwyntiau hefyd. Ond dw i wedi cryfhau ac ar ol bron pythefnos o beidio defnyddio’r Saesneg tu-fas i’r gweithle, dw i’n dechrau gweld yr her fel un y bydda i’n gallu cyflawni.

Dw i wedi sylweddoli faint o bobl sy’n siarad neu’n deall Cymraeg o’m cwmpas. Dechreuoedd yr wythnos gyda sgwrs ag un o’n cyn-ddysgwyr oedd yn digwydd bod yn cerdded heibio’r ty gyda’i gwn. Er nad yw e wedi mynychu dosbarth am dair blynedd mae dal gafael da ganddo ar Gymraeg sgyrsiol. Ar ol i fi gwpla dweud wrtho beth o’n i am ei wneud, edrychdd arnaf yn feddylgar, cyn iddo ofyn “Pam ti’n gwneud hynny, te?”

Does dal dim ateb glou i’r cwestiwn ‘na gyda fi. Am y rhai sy wedi darllen y post cyntaf dw i’n credu fy mod i wedi tanlinellu y rhesymau dros hyn i gyd. Ond mae hynny yn hir-wyntog a ddim mor addas ar gyfer sgwrs dau funud ar y stryd. Felly des i o hyd i ateb, ddim un dda, ond un sy wedi fy nghynorthwyo ers hynny. “Moyn gweld sut basai fe,” dwedais i. Roedd yr ateb yn ddigon da i fy ffrind felly pan nad oes amser gyda fi, neu digon o Gymraeg gyda’r person sy’n siarad gyda fi, dyna’r ateb dw i wedi bod yn ei roi.

Mae pobl Beddllwynog yn gwybod, ar y cyfan, erbyn hyn. Dw i wedi, hyd yn oed, darllen ar ffesbwc fy mod i’n gwrthod defnyddio’r Saesneg fel protest yn erbyn llywodaerth Prydain oherwydd ei ddiffyg buddsoddiad i’r iaith Gymraeg. ond wrth gwrs nid protest gwleidyddol yw hon. Dyw hi ddim yn brotest o gwbl. Blas ar brofiad yw hyn, un nac ydw i wedi’i chael o’r blaen, a phrofi bod hi’n bosib. Os ydy hynny yn newid meddylfryd Cymry, go dda y basai e ond elw ychwanegol hefyd byddai hynny, nid fy mhrif amcan.

Ar hyn o bryd mae ddwy siop yn y pentref. Un sy’n cael ei rhedeg gan Ian a’i fab Gareth ac un drws nesa i’m ty sy fel mae’n digwydd cael ei redeg gan deulu ifanc o dras Asiadd. Newydd ddyfod y maen nhw hefyd ac mae ganddynt mab bach sy wastad yn gwenu o tu-ol i’r cownter. Mae’r agwedd yn y ddwy siop yn grynodeb mewn ffordd i’r heriau fydd yn codi yn fy erbyn dros y pumdeg wythnos i ddod. Dw i wedi siarad a Gareth ac Ian ac dw i wedi llwyddo cyfathrebu yn Gymraeg gyda nhw. Yn well byth mae’r ddau ohonynt wedi llwyddo ymateb gan ddefnyddio geiriau Cymraeg. Mwy nag o’n i’n ddisgwyl i fod yn gwbl onest. Ond yn y siop drws nesa maen nhw wedi gwrthod gweini arnof fi os dydw i ddim yn fodlon i siarad Saesneg. Ac yn bellach roeddent yn grwgnachlyd wrth neud. Esbonias i wrth y dyn sy’n gweithio ‘na mod i ddim am siarad Saesneg ac gofynais drwy funudio os yw e’n siarad unrhyw ieithoedd gwahanol. Dwedodd fod e’n siarad Punjabi felly es i ar y we i ffeindio geiriau sylfaenol, yn gyntaf i ddangos parch at ddiwylliannau pobl eraill ond hefyd i wneud pethau yn haws. Deg (Das) Hugain (Vih) am y mygynnod a Diolch (Dahnwad)! Ond er hynny nad oes wedi bod unrhyw twymo yn y croeso ac dwi wedi penderfynu na fydda i’n siopa na pan fo dewis gyda fi. Ond weithiau bydd rhaid i fi ddioddef a thrio bod mor gwrtais a fedra i fod; hyd yn oed os nad yw’r cwrteisi yn gweitthio’r ddwy ffordd (Mae’r siop arall yn cau am chwech, mae’r siop drws nesa ar agor tan naw). Ond yng nghefn fy meddwl dw i’n poeni eu bod yn meddwl mod i mond yn defnyddio Cymraeg gyda nhw er mwyn gwneud iddynt deimlo’n anghysurus. Ond dwi ddim, a phroblem nhw ydy hynny, nid problem fi. Dw i ddim yn gallu eu trin nhw yn wahanol ar sail diwylliant neu lliw eu croen, neu’r iaith eu bod nhw’n siarad. Yng Nghymru maen nhw – paid a gweiddi ar bobl a mynnu eu bod nhw’n defnyddio Saesneg!

Ar ol siopa ac esbonio wrth Ian yn y siop top nos Fercher, es i i ddysgu blwyddyn un yn y Workies. Do’n i ddim yn sylweddoli ar y pryd ond roeddwn i wedi gadael fy waled yn y siop. Ces i neges testun gan fachgen y teulu drws nesa am naw o’r gloch. Mae Ian wedi gyrru lawr a rhoi fy waled iddynt os o’n i am ei godi ar y ffordd adre. Ysgrifennais nodyn i Ian a gadael yng nghil y drws y noson ‘ny gan ddiolch iddo am ei gymorth. Yn Gymraeg oedd y nodyn gyda geiriau allweddol fel defnyddio enw’r teulu dws nesa a rhif y ty a’r stryd a DIOLCH YN FAWR mawr arno. Wrth wrando ar Ian heddiw mae wedi gofyn i ffrind ei gyfieithu. Dyna wasanaeth a dyna’r ffordd i ennill ffyddlondeb cwsmeriad. Beth yw idiom Cymraeg am ‘calch a chaws’?

Roedd pwt ar y newyddion nos Iau amdanaf. Ro’n i’n gpfyn pobl Merthyr am gyfarwyddiadau yn y Gymraeg a phrynu papur. Yn ol y son doedd siopa a chaffis Merthyr dim yn fodlon iawn gyda’r cyfle o ddelio a Chymro lletchwith sy ddim am siarad Saesneg a nhw. Ond unwaith eto roedd gan y mwyafrif dealltwriaeth o air neu ddwy a gan ddefnyddio enwau siopau a enwau cwmniau roeddwn yn llwyddo. A thyfu mae’r hyder!!

Ffoniais i fy chwaer i ddweud am y rhaglen. Yr UAB oedd yn cyfieithu’r holl sgwrs a gwyliodd teulu fy chwaer y Newyddion ar eu teledu yn Reading. Siaradon ni am bedwardeg munud ar ol ac, er bod dim gair o Gymraeg gyda hi, dwedodd fy chwaer pa mor falch ohonof yr oedd hi. Dw i wedi cael negeseuon calonogol oddi wrth llawer o’m ffrindiau yn Lloegr.

Dw i wedi siarad llawer o Gymraeg ‘fyd o gwmpas y pentref. Os ydw i jyst yn gweld mwy o siaradwyr Cymraeg neu os ydw i jyst yn wneud mwy o ymdrech ni wn, ond dw i ddim yn ffeindio byw yma heb Saesneg yn anodd o gwbl. Roedd tri ohonyn ni yn sgwrsio tu-fas y ty ddoe, plant y byngalo yn chwarae ar y cwrt pel-fas gyda fy mhlant yn Gymraeg a’u rhieni a thad-cu yn dweud bod yn amser iddynt ddysgu Cymraeg. Mae’n dechrau dod y peth naturiol i’w wneud. Er bod y mwyafrif yn dysgwyr neu’r rhai sy wedi colli eu Cymraeg ysgol mae pawb yn gwneud mwy o ymdrech, ar gyfnodau dw i’n credu eu bod yn gwneud mwy o ymdrech na fi!

Ddoe daeth y sialens mwyaf. Fel deliwr tocyn tymor es i i wylio CPD Dinas Caerdydd gael eu chwalu gan Palace. Dw i wedi bod yn sefyll yn yr un lle ers i’r stadiwm agor ac wedi bod yn sgwrsio a chanu gyda’r un bois ers deng mlynedd cyn hynny. Ond siarad a chanu yn Gymraeg y wnes i. Roedd fy mab wedi synnu bod, er mod i’n siarad Cymraeg a phobl sydd, i bob pwrpas yn ddi-Gymraeg, roedden ni’n llwyddo i gyfathrebu. Meindiwch doedd dim lot i ganu amdano ac mae rhegfeydd yn hynod debyg ym mhob iaith.

Es i i barti plant yn y pentref nos Iau. Rhyw ddeg o blant oedd yno a phob un yn siarad Cymraeg. Mwyafrif o’r rhieni yn ddysgwyr neu wedi dysgu. Ar un gyfnod sefais wrth ddrws y lolfa ac edrychais o gwmpas am funud neu ddwy. Meddyliais am hen wraig y Bala Islwyn Ffowc a ces i syfrdandod ar y gyferbyniad. Gyda’m llygaid fy hun roeddwn i’n gweld ail-genu’r iaith Gymraeg.

Mae wythnos hir a galed ymalen ac mae’r gwely yn fy ngwahodd. Ond cyn i fi fynd dw i’n chwilio am bartneriaid iaith i helpu fi ar fy nhaith. Dw i am 49 o bobl i rannu’r profiad hwn gyda fi am wythnos. Mae fy mhlant hyn wedi cytuno ymuno a fi am yr wythnos olaf. Os oes diddordeb gennych gadewch nodyn ar fan hyn a byddwn ni’n trio sortio mas wythnos i chi ac ychwanegu eich sylwadau i’r blog. Nos da.

 

 

Y Dyddiau Cynnar

Mae’r dyddiau diweddar wedi bod yn hynod diddorol. Y peth cyntaf, a phosib y peth pwysica, dwi wedi’i ddysgu erbyn hyw yw nad yw’r  awydd i wneud penderfyniadau sydyn, heb wneud y gwaith caib a rhaw angenrheidiol, yn gymorth i’r rhai fel finnau. Dw i wedi gwneud fy ymdrech i fyw yn Gymraeg yn llawer mwy anodd nac oedd rhaid iddo fod. Tria i danlinellu paham.

Pwy yw’r bobl sy’n chwarae rol canolig yn fy myd? Yn amlwg fy mhlant (siaradwyr Cymraeg bob un), a’r un arall bwysig yn fy mywyd (hefyd yn medru’r Gymraeg ac yn wella bob dydd), fy ffrindiau ( y mwyafrif ohynyt yn medru’r Gymraeg), fy nghyd-gweithwyr (ond yn ol y rheolau a osodwyd gennyf ar ddechrau hyn, rwy’n parhau i ddefnyddio Saesneg yn y gwaith). Felly ar y dechrau, er bod yr her yn edrych yn un fawr o’r tu-fas, nid oeddwn i’n ei hystyried fel ‘na. Ond anghofiais am lawer o bobl; pobl sy’n rhan o fy mywyd ac yn amlwg doeddwn i ddim yn eu hystyried, doedd dim cynllun gyda fi ar eu cyfer nhw. Ac dw i dal i bendroni am yr hyn y ddylwn ei wneud er mwyn cynyddu cefnogaeth (a chadw perthnasau yr wyf wedi bod yn eu hadeiladu dros y blynyddoedd) yn y ddwy ardal bwysiga oll i mi.

Mae fy nghar yn ol! Mae wedi bod yn ymwelydd cyson i’r modurdy ers i mi ei brynu ddwy flynedd yn ol. Caiff un peth ei drwsio, aiff rhywbeth arall i’r chwith. Ond am gyfnod bydda i’n coleddu y dyddiau, wythnosau neu”r misoedd gyda fe, fel mae rhywun yn wneud wrth i glaf yn dychwelyd o’r ysbyty. Ond fel un sy’n gwybod bod pob dim ddim yn ei le, bod y salwch cyntaf wedi arwain at sawl haint arall, disgwylaf ei golli yn fuan. Ond ar hyn o bryd gyda’n gilydd y byddwn ni.

Ffoniodd y garej fi Ddydd Gwener. Edrychais ar y ffon yn siglo ar y desg o’m blaen. Gwelais enw yr un oedd yn fy ngalw. Rhewodd fy meddwl am gorff. Arhosais i i’r siglo bennu. Wnaeth. Teimlas for o ryddhad yn llifo dros fy nghorff!

Soniais am Nathan o gwmni Gwent MOT yn Nhredegar yn glou yn y post cyntaf y sgwenais. Mae e di bod ‘ma ‘da fi dros gyfnod ‘anffodus’ iechyd fy nghar. Mae wastad wedi bod yn barod ei gymwynas ac, i ddweud y gwir, mae arnaf ddyled mawr iddo, yn ogystal a swm sylweddol o arian! Ffoniais i’r un bwysig arall yn fy mywyd a gofynnais iddi a fasai hi’n fodlon i ddod i’r garej ‘da fi. Wrth gwrs yr oedd hi. Cwrddais a hi ar fy amser cinio (hanner awr – felly straen amser yn codi arnaf ‘fyd) ac aethon ni i lanhau’r car cyn i fi ei gyfnewid am fy Zafira.

Yn annisgwyl gwelais i un o fois y modurdy wrtth gael petrol. Cychwynnodd sgwrs gyda fi. Neidiodd y geiriau o’i geg fel lli o anghenfilod yn ymosod arnaf. Troais at yr un arall bwysig (yr uab), a finnau’n barlysedig, wedi fy chwalu yn fewnol ac yn amlwg a golwg pryderus ar fy wyneb. Esboniodd hi. Yn ara deg aeth yr ofn, diflannodd y crynu oedd yn fy mol ond nad oeddwn yn gallu ymlacio. Yn eu lle roedd teimlad o embaras arnaf. Doweddwn i ddim yn barod am hynny!

Yn y modurdy roedd yr uab wedi cyrraedd cyn i fi droi lan ac roedd hi wrthi yn esbonio i Nathan pan gerddais i mewn. Roedd yn gefnogol ond roedd y sgwrs yn wallgo. I ddechrau roedd e’n siarad a fi yn Saesneg ac yn edrych arnaf. Parhaodd edrych arnaf wrth i mi ei ateb yn Gymraeg. Cyfieithodd yr UAB (mae hi am aros yn ddi-enw ond mae hi’n haeddu prif llytthrennau) a throdd ei ben i ddisgwyl arni. O dipyn i beth dechreuodd beidio edrych arnaf o gwbl nes i mi, erbyn diwedd y sgwrs, teimlo braidd yn anweledig. Pan gyfeiriodd ato fi, siaradodd yn araf ac yn glir, fel oedd yn siarad a phlenyn neu fel twrist Saesneg yn siarad a gweinydd yn Sbaen. Dim defnyddio Saesneg ydwyf boi, dw i dal yn blydi ei ddeall!!

Roedd nos Wener yn dda. Aethom i wylio Clustiau Cwn yn Soar ym Merthyr gyda Rob Watson, un o’m dysgwyr sy yn glou yn troi yn siaradwr Cymraeg sy yno i mi bob tro gydag ei eiriau doeth a’i gymar Coral sy hefyd yn dysgu gyda ni ac un bendant am feistrioli’r iaith ydy hi. Mae geirfa eang ofnadwy gyda hi hefyd. Roedd y sgyrsiau fan ‘na yn naturiol yn Gymraeg gyda rhai fel Phyl y Siop (er nad yw e Phyl y Siop rhagor), y McCleaniad (Del, Lis, Bethan), y staff yng Nghaffi Cwtsh, Einir Sion oedd mor garedig a chefnogol a Steve Jones Gitar Bas oedd jyst mo’yn cymryd y pis. Ond wrth siarad a Steve, tarodd e ar broblem nad oeddwn wedi’i hystyried. “Beth mae’r cymdogion yn dweud?” meddai.

Dw i’n byw mewn un o’r pentrefi arbennig olaf y cymoedd. Wrth i ni aros am ddatblygiadau sy wedi trawsnewid ardaloedd eraill yr hen faes glo mae Beddllwynog / Bedlinog wedi cadw naws yr oes a fu. Cymuned glos yr ydym, a phobl yn siarad a’i gilydd neu gan amlaf am ei gilydd. Do’n i ddim wedi meddwl amdanyn nhw. Beth feddyliant? Dw i wedi treulio’r penwythnos yn cuddio rhagddynt, does gen i ddim ateb! Mae angen rhyw fath o gynllun arnaf, y math o gynllun dylwn i fod wedi’i wneud cyn i fi ddechrau ar y broses. Dw i ddim am fod yn feudwy …. posib wna i ddanfon y plant rownd a neges pan ddon nhw nesa i aros neu, tybed, beth mae UAB yn wneud?

Mae wedi bod llwyddiannau hefyd. Yn siopa yn lleol dw i wedi llwyddo cael yr hyn o’n i mo’yn. Mae fy nwylo wedi bod yn chwyrlio fel bod nhw ar ben hwyliau melin gwynt. Yn y siop babur yn y pentref ddwedais wrth Gareth sy’n cadw’r siop bod na ‘Problem fawr gernnyf’. Yn Saesneg ymatebodd e gan ddweud “Yr unig tro bod pobl yn dweud hynny yw pan nad oes arian gyda nhw”. Esbonias i gyda “dim Saesneg” a sgwennais i 365 ar ddarn o babur a’i roi iddo. Ei eiriau e? “Beth? Dim O GWBL?” Dw i’n dechrau gweld pwynt Carl Morris nawr, y bydd mwy o Gymraeg o gwmpas nag o’n i’n meddwl yn wreiddiol ond credwch i fi, wrth siopa yn Nhredgar doedd dim gyda’r fenyw tu-ol y cownter yn Nisa. Dw i’n sicr yr oedd yn meddwl taw cynnyrch yn y siop o’n i am ei brynu oedd ‘Diolch’   Dw i di cael sawl ‘yhh?’ hefyd ond dw i wedi llwyddo. Dw i wedi archebu tecawe hefyd ond cyfyngedig iawn oedd fy ngeiriau. Ond dw i am orffen gan adrodd rhywbeth positif. Aethon ni i n’ol y tecawe ddoe ac roedd boi hynod clen yn y gwt gyda’i wraig. Roedd yn fy nghyfarch ac ymatebais gyda ‘Iawn” ond gyda gwen ar fy wyneb. Gwrandawodd arnom yn sgwrsiau yn y Gymraeg gan barhau i wenu. Wrth i ni gerdded mas galwodd ‘Nos Da’ ar ein h’ol. Ac gyda’r geiriau man ‘na, geiriau bach ond geiriau oedd yn meddwl cymaint i fi, Noson Dda yr oedd hi!

Cofion

 

No Bearla, Y Daily Mail a Dim Saesneg

S’mae bawb. Dyma gyflwyniad bach ynglyn a’r hyn y bydda i’n trio i’w wneud dros y flwyddyn i ddod. Bydda i’n byw yng nghanol cymoedd y de heb ddefnyddio Saesneg fel cyfrwng cyfathrebu ar lafar neu’n ysgrifenedig tu fas i’m gweithle. Er hyn dwi ddim am ofyn neu’n disgwyl pobl i ddefnyddio Cymraeg gyda fi. Dw i ddim am ddewis ym mha bynnag iaith y dylai pobl eraill cyfathrebu – eu dewis nhw yw hynny a phe taswn i’n wneud felly ni faswn i’n wahanol i’r rhai sy wedi fy ngwthio i gymryd y penderfyniad hwn. Hoffwn esbonio sut a pam cyrhaeddais y pwynt yma yn fy mywyd, beth dwi’n trio cyflawni, y heriau y bydda i’n eu hwynebau a’r hyn y gwela fel canlyniadau cadarnhaol a ddeuir o fy ngweithgaredd. Ond fel maent yn dweud, dechreua i yn y dechrau am nad yw lle gwell i’w wneud.

Felly pwy sy ar fai am fy mhenderfyniad i wneud beth faswn i’n ystyried i fod y peth mwyaf radicalaidd dwi erioed wedi’i wneud. Rhyw foi o Iwerddon (dylwn i ddysgu ei enw er mwyn talu teyrnged i’r effaith a gafodd arnof a gwna rhywbryd), Y Western Mail, Y Daily Mail a ‘i thebyg a fy mhlant. Sut mae rheiny yn gyfrifol? Cymeraf bob un yn ei dro.

Y Western Mail – Dim byd o’r ochr golygu ond y croesair. Ro’n i’n gorwedd ar y soffa yn wneud yn reit da ‘da fe nes ‘mod i’n cyrraedd yr un olaf. Y cliw oedd ‘Iaith Geltaidd’ (yn Saesneg, wrth gwrs). A dyma fi yn meddwl pe tasai cyfle i fod ar Mastermeind dyma fydd fy mhwnc arbennig. Dechrau gydag ‘E’ pedair llythyren. Methu meddwl, amser yn hedfan, llygaid yn drymhau, amser i tsetan – es i ar y we a wnes i ymchwil ar yr iaith Wyddeleg lle des i o hyd i….

‘No Bearla’ – rhaglen ar TG4 yn Iwerddon gyda rhyw foi yn crwydro mewn fflip-fflops a het a wisgwyd gynt gan Reni o’r Stone Roses. Teithiodd e drwy Iwerddon yn siarad Wyddeleg yn unig yn debyg i’r rhaglen ‘Popeth yn Gymraeg’ a gyflwynwyd gan Ifor ap Glyn rhyw ddegawd yn ol yng Nghymru. Ond yr hyn a darodd fi mwyaf am hyn oedd y dealltwriaeth o’r iaith gan y bobl gyffredin. Roedd pobl yn edrych fel yr oeddent yn ei ddeall ond yn anfodlon i’w ateb yn ol. Nid oherwydd eu diffyg gallu yn yr iaith ond oherwydd eu bod yn anghyfarwydd i’w wneud. Bod y peth ‘ma gyda rhywun yn mynnu ar ddewis Wyddeleg yn anghyfarwydd. Bwriad y cyflwynydd oedd dangos bod yr iaith i bob pwrpas wedi marw. Hyd yn oed os magu ymateb oedd ei obaith wnaeth Manchan Magan (dywedais baswn i’n dysgu ei enw) drio bathu agwedd negyddol. Dyma lle mae fi a fe yn wahanol. Dw i moyn i hwn fod yn brofiad positif – nid jyst i fi ond y bobl sy’n ffeindio eu hunain yng nghanol llwybr fy arbrawf – bod nhw’n teimlo yn nes at ei diwylliant ac etifeddiath eu hunain. Mae dwy ardal o bwys i fi; Tredegar lle dwi’n gweithio a Beddllwynog / Bedlinog lle dwi’n byw. Er mod i am deithio i bob cwr o Gymru dros y flwyddyn nesaf mae’r ddwy ardal ‘ma yn mynd i fod yn bwysig i lwyddiant neu fethiant fy ymdrechion. Dof i yn ol atynt wedyn.

Y Daily Mail a’i thebyg – oes angen dweud mwy. Toc ar ol gwylio y pedwerydd rhaglen o gyfres un ‘No Bearla’ mewn noson derbyniais i stori ar ffesbwc gan un ohonoch gyda DM yn lladd unwaith eto ar Gymru. A beth oedd sbardun problemau Cymru i gyd? Rhyw blentyn pum mlwydd oed yng Ngheredigion nad oedd yn cael mynd am bi-pi’s yn yr ysgol am yr orfodaeth i ofyn yn Gymraeg a’r fam, merch ffermwr a Chymraeg loyw yn gandryll. Brad y Llyfrau Gleision? Ni fasai ei angen heddiw – mae papurau Toriaid yn camu dros bennau ei gilydd i fod yn gyntaf yn y gwt i feio’r iaith Gymraeg am bob dim sy’n bod yng Ngwlad y Gan. A’r ddau beth yn taro yn erbyn ei gilydd yn fy mhen, marwolaeth yr iaith a’r iaith sy ar fai oedd yn fy arwain i feddwl am…

Fy mhlant – pedwar ohonynyt a phob un yn meddwl y byd i mi. Mae fy merch hyn wedi penderfynu gadael yr ysgol Gymraeg lle wnaeth hi mor dda yn ei TGAU y llynedd i astudio lefel A dros y ffin yn Henffordd. Ac os dyna beth oedd hi am ei wneud dyna’r hyn bydd rhaid i mi gefnogi. Ond dwi’n gwybod mod i wedi gwneud y job da hi am fod Cymraeg yw ein hiaith ni o hyd ac mae Cymraeg yn ei chalon. Ac ninnau mond wedi defnyddio Cymraeg ers y cychwyn, dwy flwyddyn ar bymtheg yn ol pan o’n i’n byw yn Reading a’r llyfr ‘Magu Babi yn Ddwyieithog’ oedd ein hunig ffordd o gyfathrebu. Dyn ni wedi dysgu Cymraeg gyda’n gilydd a hithau oedd fy ysbrydoliaeth a’r pwrpas tu-ol fy angen ac awydd i gael gafael sydyn ar yr iaith. Ac yn anaml iawn mae Saesneg i’w chlywed pan fo ni’n sgwrsio. Dw i moyn gosod esiampl iddynt, i bob un ohonynt, sy’n dweud yn glir bod, ar ol i’r llenni cau a’r fy myd, yn fagddu eu galaru, pasio fy iaith, ein hiaith, fydd yn talu teyrnged i mi. Pasiwch y Gymraeg i’r genhedlaeth nesa gyda’r un pwys, cariad a choledd mi basiais i’r Gymraeg i chi.

Mae’n flin ‘da fi dros y staff yn Weetman’s yn Nhredegar lle pryna i fwyd bob amser cinio a Nathan yn Gwent MOT sy rhywsut wedi llwyddo cadw fi ar yr heol er gwaethaf diffygion y Zafira. A’m ffrindiau ym Meddllwynog a fy mam. A’r un arall bwysig yn fy myd sy’n mynd i fod y cyd-deithwraig gorau oll. Dwi ddim yn anwybyddu chi, dwi ddim am fychanu chi ond mae’n rhaid i fi wneud hyn a ffeindia i ffordd i’r broses fod yn un esmwyth dwi’n addo. Ond dyma fy aberth – dim Saesneg am flwyddyn yng Nghymru tu-fas i’r gwaith lle dwi’n dysgu Cymraeg a nid ydw i am amharu ar brofiad fy nysgwyr. Dyw e ddim yn cymharu a’r hyn a wnaethpwyd a wneir gan eraill. Bydda i’n ddiolchgar am byth i’r rhai fel Osian a Jamie sy wedi colli eu rhyddid er ein mwyn. Ond gallaf wneud gwahaniaeth ac mae ysgrifennu amdani yn fy nghryfhau. Sai’n mynd i ymddiheuro am safon fy Ngymraeg ysgrifenedig chwaith. Methu ffeindio’r ^ ar y cyfrifiadur hwn ac yn hollol anwybodus am genedl enwau. Os ydych am gwyno dyna’ch hawl. Joiwch. Dathlwch hyd yn oed. Ond cofiwch, gwnaf i hyn a gwnaf i fe o achos fy nghariad at fy iaith a fy nghred ansigledig bod dyfodol disglair i’r iaith hon. Ymunwch neu gefnogwch, taith a hanner y bydd hi!

Diolch.